Text Box: David Rowlands AC

7 Mawrth 2017

 

Annwyl David

Datganiad yn y Cyfarfod Llawn: Ymchwiliadau ac ymgysylltu – panel dinasyddion

Ysgrifennaf atoch wedi'r drafodaeth rhyngom yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 1 Mawrth yn dilyn fy natganiad fel Cadeirydd Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch ymchwiliadau ac ymgysylltu.

Roeddwn yn falch o glywed eich sylwadau cadarnhaol ynghylch menter ymgysylltu y Pwyllgor wrth inni dreialu panel dinasyddion bach – am y tro cyntaf yn hanes y Cynulliad – fel rhan o'n hymgynghoriad i gysylltiadau rhyngsefydliadol rhwng Cymru a'r DU.

Cynhaliodd y Pwyllgor y panel dinasyddion cyntaf ar 13 Chwefror 2017. Diben y grŵp cyfeirio hwn oedd rhoi canfyddiadau a disgwyliadau cyfranogwyr o ran y gwaith a'r berthynas rhyngsefydliadol ar brawf yn fuan ym mhroses yr ymchwiliad, gan ddod i wybod barn y grŵp o ran dysgu gan sefydliadau eraill.

Roedd y panel yn cynnwys chwe dinesydd amrywiol eu demograffeg o ran oedran, lleoliad, cefndir sosio-economaidd, a rhywedd. Roedd y sawl a oedd yn cymryd rhan rhwng 16-59 oed, ac roeddent yn cynrychioli gwahanol ardaloedd ledled Cymru. Bu inni sicrhau nad oedd y sawl a gymerodd ran erioed wedi cyfrannu at yr un o ymgynghoriadau blaenorol y Cynulliad Cenedlaethol, ac nad oeddent o reidrwydd yn meddu ar unrhyw wybodaeth neu ddealltwriaeth flaenorol o ymgynghori yng Nghymru, er mwyn inni gael ystod eang o safbwyntiau.

Roeddem yn bwriadu i safbwyntiau'r panel roi cyfle i'r Pwyllgor ganolbwyntio agweddau o'i waith craffu ar y materion a ddaeth i'r amlwg. Rydym yn bwriadu cyhoeddi nodyn o'r drafodaeth maes o law, a byddwn yn fwy na hapus i roi copi i chi.

Mae'r Pwyllgor wedi gwneud y mater o hybu dealltwriaeth y cyhoedd o faterion cyfansoddiadol yn flaenoriaeth yn y Cynulliad hwn, ynghyd ag ehangu'r cylch sy'n dylanwadu ar y Pwyllgor. Hyd yma, mae gwaith y Pwyllgor hwn a'r Pwyllgor blaenorol i ddatblygu perthynas â'r cyhoedd wedi canolbwyntio ar randdeiliaid cyfansoddiadol allweddol yn bennaf. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i ehangu hyn ymhellach gan gydnabod y bydd y gynulleidfa hon yn newid gan ddibynnu ar y gwaith a gynhelir. O ganlyniad, rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio dulliau arloesol o weithio lle bo hynny'n bosibl, ac ystyried y ffyrdd gorau o gynnwys dinasyddion ym mhob cyfle posibl. Ni fyddwn yn cyfyngu ar ein hunain gan ddefnyddio un dull yn unig, a byddwn yn ystyried dulliau arloesol o ymgysylltu. Byddwn yn falch felly o dderbyn unrhyw awgrymiadau neu fanylion o ran modelau arfer gorau yr ydych yn gyfarwydd â nhw.

Yn gywir

Huw Irranca-Davies

Cadeirydd

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu'n Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.